Mi biciais lawr i Gaerdydd am ambell ddiwrnod, a hynny am y tro cyntaf fel “ymwelydd”, yr wythnos ddiwethaf. Roedd hi’n braf cael ail-gysylltu â ffrindiau yn y cnawd, ond y rheswm gwreiddiol a phwysicaf (meiddiaf ddweud) oedd i wylio gêm Cymru a Thwrci ar y nos Fawrth.