Sgrin wag, pen tost – a’r teimlad bach miniog yna fy mod i wedi anghofio rhywbeth pwysig.

Dechrau wythnos arall arferol, felly, yma yn y swyddfa. Mae’r fedwen yn y pellter yn cydio mewn hanner dwsin o’i dail euraid, a sgrechian llon plant Treganna i’w clywed wrth iddyn nhw rowlio heibio ar eu ffordd i’r ysgol. Mae’r calendr yn llawn blociau lliwgar o apwyntiadau, cyfarfodydd, ‘catchups’ a nodiadau atgoffa cryptig wedi’u sgrifennu ar frys rai wythnosau ‘nol.