A ydych chi’n hapchwaraewr? Yn hoff o gamblo, pocer, chwarae roulette… neu beth am fetio ar y ceffylau?

Dw i wedi hapchwarae sawl gwaith ond erioed wedi gwneud hynny yn rheolaidd.

Wnes i fetio y byddai Connor McGregor yn curo Floyd Mayweather yn y paffio – colli.

Wnes i fetio sawl gwaith ar rasys ceffylau tra’r oeddwn ar fy ngwyliau ym Marbados – colli.

Wnes i hefyd roi bet (a oedd yn sylweddol i mi) ar y du yn Las Vegas – a’i golli mewn eiliad!