Mae cynghorwyr ar hyd a lled gorllewin Cymru wedi bod yn cwyno ers blynyddoedd am dai ha’ a’r sŵn wedi cynyddu eto efo datblygiadau fel Airbnb a’u tebyg.

Er hynny, dim ond Cyngor Gwynedd sydd wedi manteisio ar y darpariaethau newydd a ddaeth i leddfu’r broblem trwy gytundeb Plaid Cymru a’r Llywodraeth Lafur.

Er mor rhannol ydi’r grymoedd hynny, mae angen eu defnyddio… ac wedyn symud ymlaen at atebion llawer ehangach sy’n taclo’r argyfwng tai mewn ardaloedd eraill hefyd.