Byddai tymhorau ysgol fwy hafal yn lleihau’r pwysau ar athrawon, rhieni a phlant, yn ôl y Gweinidog Addysg…

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar drefn gwyliau plant ysgol.

Fe allai gwyliau haf y plantos gael eu cwtogi o chwech i bump, neu hyd yn oed pedair wythnos, gyda hanner tymor yr hydref yn cael ei ymestyn o wythnos i bythefnos.

Daw’r trafodaethau yn dilyn ymchwiliad i strwythur yr wythnos ysgol a wnaed gan y cwmni ymchwil Beaufort y llynedd.