Bu Simon Thomas yn ohebydd rygbi i bapurau newydd am 30 mlynedd, gan ddod i adnabod y chwaraewyr yn dda. Nawr mae wedi sgrifennu llyfr am rai o’r arwyr aeth yn angof, ac yma mae yn egluro beth wnaeth ei ysgogi i fwrw ati gyda’i lyfr ‘Rugby Lives’… 

Dechreuodd y cyfan gyda chwestiwn a oedd yn codi dro ar ôl tro: “Tybed beth ddigwyddodd i hwn a hwn?”

Mi fyddai’r “hwn a hwn” yn newid o wythnos i wythnos ac o fis i fis, ond roedd un peth yn gyffredin.