Fe gafodd lleiafrif o gefnogwyr Cymru brofiad annifyr draw yn Armenia, ac o leiaf un wedi cael braw ar y naw.

Yn ôl adroddiadau roedd tua 30 o gefnogwyr wedi eu harestio ar y noson cyn y gêm yn y brifddinas, Yerevan, a hynny heb esboniad.

O gofio bod 1,200 o’r Wal Goch yno i fwynhau, teg yw nodi mai lleiafrif gafodd eu harestio.

Ond i’r rheiny roddwyd dan glo am noson, roedd yn brofiad ysgytwol.