Mae’n debyg eich bod, fel fi, wedi mwynhau pori drwy gatalog ein Cyngor Llyfrau, sy’n cynnig toreth o lyfrau gwych a difyr i ni brynu cyn y Nadolig.

Rwyf eisoes wedi archebu Ceidwad y Ceyrydd, sef hanes John Roderick Rees. Meddai’r Cyngor Llyfrau amdano: tyddynnwr, prifardd ac athro – dyn syml ar un wedd ond dyn cymhleth mewn gwirionedd.

Fe fydd fy ngwraig wrth ei bodd yn agor hwnna fore Dolig.