Onid ydy o’n rhyfedd sut mae cymaint o fabis bach yn edrych fel Winston Churchill?

Mae’r babis yma bron fel tasa nhw eto i ddiosg cysgod eu bywyd blaenorol, ac yn gwneud i rywun ofyn y cwestiwn: Yda ni, ar ôl cicio’r bwcad, yn “dod yn ôl” mewn gwisg o gnawd newydd?

Ydy, mae gweld golwg hen ar wyneb babi yn gwneud i rywun feddwl am y pethau yma.

A babi felly sydd ar glawr Golwg wsos yma – un bach ciwt sy’n edrych fel ei fod o wedi bod yma o’r blaen ac wedi gweld y cwbwl lot.