Mae lluniau Cymro ifanc wedi ymddangos ar dudalennau cylchgrawn cerddoriaeth enwog, ac mae ganddo rai gwych o gymeriadau difyr Cymru, Lloegr ac Efrog Newydd…

Y pethau bach yna y mae eraill yn debyg o’u methu sy’n cael sylw camera ffotograffydd ifanc o Geredigion.

Mae Sam Stevens yn ystyried ei hun yn ffotograffydd dogfennol, ac yn tueddu i estyn am ei gamera ffilm wrth weld rhywbeth sy’n ei ddiddori.