Mae 90,000 o deuluoedd ar y rhestr aros am dŷ cymdeithasol…

Mae “storm berffaith” o amgylchiadau yn golygu bod nifer digynsail o bobol yn ddigartref yn ôl un elusen sy’n gweithio yn y maes.

Ar hyn o bryd mae 174 o bobol yn cysgu ar y stryd yng Nghymru – cynnydd o 68% ers 2021.

Ond er mai cysgu ar y stryd yw’r ffurf fwyaf gweledol o ddigartrefedd, mae’n lawer fwy cymhleth na hynny mewn gwirionedd.