Ar ymweliad â Llundain mi wnes i fynd ar daith a chael fy nhywys o amgylch galeri’r Tate. Roedd y daith yn rhan o ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon a’i phwrpas oedd archwilio presenoldeb pobl dduon yn y casgliad o gelf yno.

Gwnaeth arweinydd y daith ein tywys ni ar siwrne trwy hanes celf a dangos y tro cyntaf i’r corff du gael ei bortreadu fel eiddo, i’w gynrychiolaeth yn nes ymlaen fel person ac yn y pendraw i artistiaid du yn cynhyrchu gwaith celf eu hunain.