Yn ddiweddar bu Cadeirydd cyntaf a Phrif Weithredwr olaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cael eu holi ar achlysur 30 mlynedd ers pasio Deddf Iaith 1993.

Roedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a Meirion Prys Jones yn edliw fod yr elfen o hyrwyddo’r iaith wedi gwanio ers diddymu’r Bwrdd yn 2013, pan gafodd rôl y Comisiynydd Iaith ei greu i blismona defnydd cyrff cyhoeddus o’r Gymraeg.