Llundain fu prifddinas Lloegr ers o leiaf 1066 pan gafodd William y Concwerwr ei goroni yn frenin yno. Fe gafodd Senedd San Steffan ei sefydlu yn 1215 ac mae canrifoedd lu o hanes yn perthyn i’r lle.
Mae yna hen hen hanes i Gaerdydd fel porthladd ag ati wrth gwrs.
Ond dim ond yn 1955 – yn dilyn cystadleuaeth yn erbyn Caernarfon, Machynlleth, Aberystwyth, Llandrindod ag Abertawe! – y daeth Caerdydd yn brifddinas Cymru.
Felly yn nhermau prifddinasoedd y byd, tydi hi ond yn ei chlytiau.