Mae’r Prif Weinidog Prydeinig, Rishi Sunak, wedi ein cynghori ni i gyd i fod yn ofalus cyn rhuthro i fynegi barn am Gaza. Mi ddylai gadw at ei egwyddorion ei hun.

Mae’r digwyddiadau yno a’r trychineb yn yr ysbyty wedi dangos pa mor anodd – a pheryglus – ydi maes newyddion-y-funud a’r cyfryngau newydd.

Beth bynnag ddaw, fydd cefnogwyr y naill ochr ddim yn credu’r llall ac mae’r dechnoleg yn golygu ei bod hi’n bosib i bawb dwyllo pawb.