Ydych chi wedi bod i’r opera o’r blaen? Es i ar ddêt gyda’r wraig i weld cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru, La traviata, yn Venue Cymru wythnos diwethaf. Roedd yn wledd o ganu, cerddoriaeth ac actio a wnaethom ni fwynhau yn arw.

Wedi i mi sôn wrth fy nghyfeillion am yr hyn wnes i dros y penwythnos, derbyniais yr ymateb:

 

‘Www, posh,’

‘Wyt ti wedi bod i’r opera o’r blaen,’ gofynnais.

‘Oh na, mae hwnna ddim i bobl gyffredin fel fi,’ atebodd.

 

Pobl fel fi? Mae’n rhyfedd sut mae rhai ffurfiau o adloniant efo brand dosbarth gweithiol, eraill yn ddosbarth canol ac yn achos opera, dosbarth uwch.

Mae yna amryw o resymau hanesyddol, economaidd a chymdeithasol pam yr ydym yn ystyried un math o adloniant yn fwy posh na math arall o adloniant.

Ond gadewch i ni anwybyddu’r grymoedd ac ystyriaethau hanesyddol am eiliad…

Erbyn heddiw, ni allai’r gôst o weld opera yn unig gyfiawnhau ei delwedd ‘elitaidd’.

Ystyriwch bêl-droed, sydd yn parhau efo delwedd dosbarth gweithiol ond mewn realiti yn gallu costio £365 i oedolyn wylio Manceinion yn chwarae yn erbyn Lerpwl mewn gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr. O gymharu, costiodd £56 imi wylio La traviata.

Ymhellach, mae perchnogion clybiau pêl-droed a’r chwaraewyr eu hunain yn byw bywydau mewn gwahanol stratosffêr o gymharu gyda ni’r bobl gyffredin. Gallwch wylio Manchester City, sy’n eiddo i’r Abu Dhabi United Group sydd efo cysylltiadau â theulu llywodraethol Abu Dhabi, yn chwarae yn erbyn Paris Saint Germain (PSG) sy’n eiddo i Qatar Sports Investments (QSI), cronfa o gyfoeth sofran a reolir gan lywodraeth Qatari.

Mae sgil, athletiaeth a chreadigrwydd y chwaraewyr proffesiynol gorau yn eithriadol ac yn y byd chwaraeon elitaidd, ychydig iawn sy’n hawlio safle mwy dyrchafedig na Kylian Mbappé , sy’n ennill oddeutu £60 miliwn – y flwyddyn! – yn chwarae i PSG.

Ac eto, nid ydym yn ystyried fod gwylio pêl-droedwyr cyfoethog yn chwarae i glybiau sy’n eiddo i biliwnwyddion a theuluoedd brenhinol o dramor yn esiampl o adloniant ‘elitaidd’: mae gwylio pêl-droed amdanom ni’r bobl gyffredin.

Beth am fathau eraill o adloniant? Dw i wedi clywed y ddadl bod opera yn elitaidd oherwydd cost cynyrchiadau’r set a’r gwisgoedd ac ati. Ond mae hyd yn oed y cynyrchiadau fwyaf moethus dan haul yn fychan iawn o gymharu â’r symiau aruthrol sy’n cael eu gwario ar deledu.

Un o fy hoff gyfresi teledu llynedd oedd The Lord of the Rings: The Rings of Power – dwi’n edrych ymlaen i’r ail gyfres fydd i’w gweld y flwyddyn nesaf. Chwaraeodd sawl actor Cymreig prif rannau yn y gyfres ac roedden nhw yn llysgenhadon arbennig i’r Gymraeg. Fel y disgwyl roedd golwg ac ansawdd y gyfres yn fendigedig a da o beth oedd hynny gan i’r gyfres gostio oddeutu $1 biliwn i’w chreu.

Gallech ddadlau bod cynnal operâu mewn ieithoedd estron yn elitaidd ond eto mae pobl ‘gyffredin’ yn mwynhau cyfresi fel The Rings of Power er bod llawer o sgyrsiau yn cael eu cynnal yn Elvish ac ieithoedd ffantasïol eraill Middle-earth, neu ‘Endor’ fel y buasent yn dweud yn yr iaith Elfin.

I fi, celf yw celf. Adloniant yw adloniant. Dylwn symud i ffwrdd o’r syniad bod rhai mathau o adloniant iddyn ‘nhw’ ac eraill i ‘ni’. Y cwestiwn i’w ofyn yw a ydych yn mwynhau? A yw’r ffurf yma o adloniant yn eich plesio? Dylai mynediad at, a mwynhad ffurf benodol o gelf/chwaraeon/adloniant fod yn gwestiwn o chwaeth ac nid dosbarth cymdeithasol.  Ac felly peidiwch â gadael i rywun eich argyhoeddi nad yw opera i chi. Rhowch gynnig arni – efallai byddwch yn mwynhau. Mae’r celfyddydau i bawb.