Rwy’n ysgrifennu’r golofn hon o stiwdio Hal Todd ym Mhrifysgol San Jose, Califfornia. Mae’n fore Llun, ac rwyf i a fy nghwmni ar gyfer y cynhyrchiad Baba Joon gan Lisa Zahra yn y broses o sortio ein set, goleuo a gweithio gyda’r taflunydd enfawr ar y wal sy’n ychydig bach o upgrade o’r teledu 1990au oedden ni’n defnyddio ar gyfer y sioeau yn Abertawe’r wythnos ddiwethaf.
Mae gennym ni wythnos o gysylltu gydag artistiaid y Dwyrain Canol yn San Jose a San Francisco, yn ogystal â pherfformio ym Mhrifysgol San Jose a bod yn rhan o’r penwythnos o’r Middle Eastern and North African Theatre Making Alliance yn San Francisco. Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn fy mod i ar y daith yma. Mae o hefyd yn amser od iawn i fynd i America i wneud sioe am fod o dras gymysg Ddwyrain Canol!
Wythnos diwethaf roedden ni i gyd yn gwylio ymateb Israel i ymosodiad Hamas yn yr ŵyl Supernova Sukkot. Mae’r fyddin yn Israel a’r llywodraeth ei hun wedi lansio ymosodiad creulon ar bobl Palestina yn Gaza. Mae gen i ffrindiau Iddewig sydd wedi colli ffrindie yn yr ŵyl, ond sydd hefyd yn erbyn sut mae’r llywodraeth wedi ymateb. Mae pobl Palestina wedi bod dan warchae ar ôl i’r Gorllewin greu gwladwriaeth Israel ar ôl yr Ail Ryfel Byd, fel ymateb i’r holocost a thriniaeth pobl Iddewig gan Nazis yr Almaen.
Mae bobl Palesteina wedi cael eu gwthio allan o’u tai, tirwedd, ac wynebu blynyddoedd o’r fyddin yn eu bygwth a’u bomio. Fe gawson nhw eu gwahardd rhag byw mewn heddwch a chael swyddi. Er nad ydw i yn cytuno gyda, nac yn cefnogi ymosodiad Hamas, mae’r gormes cyson mae’r bobl Palestinaidd wedi dioddef ers 1948 hyd at nawr heb ildio. Mae’r llywodraeth Americanaidd wastad wedi ariannu byddin Israel, gyda chefnogaeth ein llywodraeth ni hefyd, ac felly ymateb llawer o bobl ar draws y byd yw i brotestio dros yr wythnosau diwethaf.
Nid yw gwrthwynebu’r fyddin a llywodraeth Israel ddim yn meddwl fy mod i’n anti-semitaidd, ac mae angen i ni gyd fod yn ymwybodol o sut mae’r atgasedd tuag at gymunedau Mwslimaidd AC Iddewig ond yn mynd i gynyddu o ganlyniad i beth mae Hamas wedi ei wneud. Mae yn sefyllfa mor gymhleth i ysgrifennu amdano o fewn colofn 500 o eiriau, rwy’n gwybod hyn.
Ond fel rhywun sydd ar y foment yn teithio gyda drama am hunaniaeth Gymreigaidd a Dwyrain Canol, fel person gyda hanes teuluol Cymraeg a Dwyrain Canol yn America, roeddwn i’n ymwybodol o’r sefyllfa eitha anarferol mae fy ngwaith fel cyfarwyddwr wedi rhoi fi ynddo. Rwy’n teimlo balcher ein bod ni’n gallu adrodd yr hanes yma, fod y ddrama yma yn gallu bodoli tu fas i Gymru.
I fi, nid yw theatr byth am anwybyddu’r sgyrsiau anodd, mae o’n safle i ni ddeifio mewn i gymhlethdod ein pobl, ein hanes ac ein hunaniaeth. Mae’n bwysig siarad, wastad, ac mae’n anodd teimlo ein bod ni ddim bob amser yn gwybod digon am bwnc. Ond rwy’n credu mai dyna yw un o’r pethau sy’n cadw ni rhag siarad a pheidio gofyn cwestiynau: yr ofn o gael rhywbeth yn anghywir. Cwestiynau, cwestiynu ac yna ymchwil pellach yw’r pethau all wir greu newid a hefyd arwain ni at deimlo’n ddigon pwerus i greu rhyw fath o newid neu hefyd i gysylltu gyda straeon a hanesion newydd.
I fi, y theatr ore yw’r math syn codi cwestiynau, yn hytrach na rhoi atebion. Rwy’n ddiolchgar fy mod i’n ddigon breintiedig i gael y cyfle i wneud hyn trwy’r gwaith yma. Bore da, Califfornia!