Mae drama un-fenyw am ddeiseb a lofnodwyd gan 400,000 o fenywod Cymru union ganrif yn ôl, yn galw am heddwch, yn mynd i fod yn brofiad emosiynol i’r gynulleidfa.

Dyna farn Eleri Twynog, Cyfarwyddwr cwmni theatr Mewn Cymeriad, sydd ar daith ar hyn o bryd gyda’u drama Annie Cwrt Mawr, sy’n rhoi hanes Annie Hughes-Griffiths a’r merched eraill fu’n rhan o ymgyrch arwrol yn 1923.