Roedd y llen yn denau iawn y noson honno.
Y dyddiad, wrth gwrs, ond siâp y lleuad hefyd, a’r ffaith fod yr amgylchiadau’n berffaith i’r madarch ollwng eu sboriau i’r awel oer, llonydd. Crogai’r addurniadau Calan Gaeaf oddeutu’r tai yn ddychrynllyd gyfeillgar; drychiolaeth mewn ffenest, a’r llenni net yn amdo’r tu ôl iddo; penglog ar garreg drws; pwmpenni’n crechwenu yma ac acw, yn gwylio’r plant yn mynd a dod, eu bwcedi’n llawn da-da.
Teimlai Rhian yn anesmwyth, heb wybod pam.
Doedd Calan Gaeaf yn poeni dim arni, nac ychwaith y ffaith ei bod hi’n byw ar ei phen ei hun. Dyna oedd ei dewis ers blynyddoedd, ac roedd hi’n dal i deimlo rhyddhad wrth ddod adref o’r gwaith bob nos ei bod hi’n cael ei chartref iddi hi ei hun, yn cael dewis beth i’w fwyta a beth i’w wylio ac ar ba ochr y gwely i gysgu. Y tŷ yma oedd ei hafod.
Heblaw am y landin, wrth gwrs.
Gorfododd Rhian ei hun i feddwl am rywbeth arall. Anfamol ar y teledu, neu’r cawl pwmpen oedd ar ei hanner ar y bwrdd coffi. Doedd yna ddim byd yno, siwr, dim ond synau hen dŷ, ochenaid y styllau dan y carped wrth i’r pren ystwytho wedi cynnau’r gwres canolog. Ei meddwl oedd yn chwarae triciau arni weithiau, ynghanol y nos, fel merch fach yn poeni fod yna rywbeth ofnadwy y tu allan i ddrws ei llofft.
A’r siapiau bach a welai o gornel ei llygaid. Meigryn ar y ffordd oedd y rheiny, mae’n siŵr, er eu bod nhw’n ymddangos heb gur pen na salwch. Efallai bod ei llygaid yn mynd yn hen, a’i bod hi angen sbectol. Yn sicr, dyna’r unig esboniad am y cysgod a welodd hi ar y landin y bore hwnnw wrth iddi frwsio ei dannedd yn yr ystafell ‘molchi, y cysgod oedd yn debyg i berson ond a ddiflannodd cyn gynted ag yr edrychodd hi arno.
Mi wna i apwyntiad efo’r optegydd yn dre, meddyliodd Rhian, yn trio cysuro’i hun o’r ofnau oedd yn cronni’n afresymol y tu mewn iddi.
Ac yn y mudandod rhwng y rhaglen a’r hysbysebion, fe glywodd ochenaid.
Ar y grisiau, nid ar y landin, a gwyddai Rhian yn reddfol mai merch oedd yno, merch ifanc, a’i bod hi’n sefyll yn anweledig, eisiau i rywun ei gweld hi unwaith eto. Ac roedd ofn ar Rhian, am fod yna ysbryd yn y tŷ ond am ei bod hi’n deall y teimlad yn iawn, hefyd.