Rwyf wedi sôn eisoes fy mod yn agos at y diwrnod pan gaf hawlio Pensiwn y Wlad. Fe fydd yr arian yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig gan fy mod o’r farn gref fod bywyd yn antur. Fe fydd fy mhensiwn, felly, yn fy helpu i ariannu’r anturiaethau sydd i ddod.