Roedd y lluniau’n erchyll a’r dychryn yn ofnadwy. Bron na allech chi ei deimlo wrth edrych ar y sgrîn wrth i ymladdwyr mudiad Hamas ymosod yn gïaidd ar bobol gyffredin yn Israel.

Doedd yna ddim allai gyfiawnhau cyrch o’r fath ac roedd gwledydd y Gorllewin yn barod iawn i ddweud hynny. Mae’n hawdd i’r rhan fwya’ ohonon ni uniaethu â’r teuluoedd sydd â pherthnasau o bob oed wedi’u herwgipio.