Mae Joseff Gnagbo wedi ei ethol yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mi fydd yn cymryd yr awennau gan Robat Idris, sy’n ysgwyd ei law yng nghyfarfod cyffredinol y mudiad yng Nghaernarfon y Sadwrn diwethaf.

Daeth Joseff i Gymru o Arfordir Ifori ar ffo ac ers ymgartrefu yng Nghaerdydd mae wedi dysgu siarad Cymraeg a bellach yn darparu gwersi I geiswyr lloches eraill ac yn dysgu Cymraeg mewn ysgolion.