Yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni – am y tro cyntaf yn eu hanes – fe benododd Undeb Rygbi Cymru Gwyn Derfel  i hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Cyn hynny bu yn Rheolwr Cyffredinol Cynghrair Pêl-droed Cymru.

 A chwe mis ers iddo ymgymryd â’i waith newydd, dyma’i argraffiadau o weithio gyda’r Undeb…

Mae Undeb Rygbi Cymru wastad wedi ymfalchïo yn y ffaith bod y clybiau a’r cymunedau rygbi yn allweddol bwysig ym mywyd dyddiol ein gwlad.

Penderfynwyd yn ystod yr Hydref diwethaf i chwilio am berson i hyrwyddo’r defnydd o’r iaith Gymraeg o fewn yr Undeb, ac fe ges i fy mhenodi i’r swydd ym mis Chwefror.

Penderfynwyd ceisio gwella’r ddarpariaeth gyhoeddus ar unwaith gan wneud hynny mewn modd diffuant. Un o’r blaenoriaethau cyntaf eraill oedd cynnig cyfleoedd i’r staff ddysgu Cymraeg yn ystod oriau gwaith.

Mae dros gant o aelodau staff yr Undeb wedi datgan eu diddordeb pendant i ddechrau dysgu “Iaith y Nefoedd” gyda chydweithrediad gwerthfawr iawn y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Bydd y gwersi rhad ac am ddim hyn, yn dechrau fis nesaf.

Gydag arweiniad Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg dros gyfnod o fisoedd – a chefnogaeth unfrydol Bwrdd Cyfarwyddwyr yr Undeb –  fe gyhoeddwyd Polisi Iaith Undeb Rygbi Cymru ar Faes y Sioe Frenhinol, oedd yn datgan ymrwymiad clir yr Undeb tuag at y Gymraeg.

Roedd y Prif Weithredwr dros dro, Nigel Walker, yn allweddol yn y broses hon ac roedd yn bresennol yn Llanelwedd wrth lansio’r polisi – pan dderbyniodd yr Undeb gydnabyddiaeth y ‘Cynnig Cymraeg’ gan y Comisiynydd ei hun, Efa Gruffudd Jones.

Dywedodd Nigel Walker: “Byddwn yn gwella ein darpariaeth a’n gwasanaethau ac yn croesawu’r cyfleoedd newydd y bydd hyrwyddo’r Gymraeg yn eu cynnig i ni a’n cefnogwyr.”

Wrth gynnig anogaeth a help llaw, mae rhai o brif noddwyr yr Undeb wedi dechrau defnyddio’r Gymraeg yn eu hymgyrchoedd marchnata, sydd wedi profi’n boblogaidd gyda’r cefnogwyr ac o’r herwydd wedi plesio’r noddwyr eu hunain wrth gwrs.

Yn ôl ystadegau Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, dywedodd 84% o gwmnïau masnachol bod defnyddio’r Gymraeg yn ‘Cyfoethogi eu Brand’ tra bo 76% o’r cwmnïau hynny wedi ‘Denu cwsmeriaid newydd’ trwy ddefnyddio’r iaith.

Coldplay ac Alffa yn y stadiwm

Yn ogystal â chynnig cyngor i’r noddwyr, mae Undeb Rygbi Cymru’n cynnig gwasanaeth ac arweiniad am iaith a diwylliant Cymru i drefnwyr digwyddiadau eraill sy’n defnyddio Stadiwm Principality. Fe groesawodd tîm rheoli Coldplay y gwasanaeth hwn gyda breichiau agored cyn eu dau berfformiad ym mis Mehefin.

Cydweithiwyd er mwyn paratoi fideo rhagarweiniol dwyieithog i’r cyngerdd ac fe groesawyd y bandiau (oedd yn cynnwys Hana Lili) i’r llwyfan yn y ddwy iaith hefyd. Fe gafodd y ffaith i brif leisydd Colplay, Chris Martin ddefnyddio rhyw hanner dwsin o frawddegau Cymraeg yn ystod y perfformiadau, groeso twymgalon gan y cyhoedd.

Mae’r Undeb wedi gwneud ymdrech benodol i adlewyrchu gwahanol elfennau o ddiwylliant Cymru yn Stadiwm Principality ar ddyddiau gemau dros y misoedd diwethaf. Tra bo’r emynau, y corau a’r bandiau pres yn dal i apelio at garfan sylweddol o’r cefnogwyr, mae’r Stereophonics ac Alffa yn cynnig cyffro ychydig yn fwy cyfoes wrth arwain at y gic gyntaf.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn ceisio apelio at bawb – yn enwedig felly’r genhedlaeth iau. Ar ddechrau ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd fe fabwysiadwyd ‘I’r Gad Fy Ngwlad’ gan Gwcci fel y gân swyddogol.

Dywedodd Nigel Walker:

”Mae’n rhaid i ni wneud rygbi’n fwy perthnasol ac atyniadaol i’r genhedlaeth iau. Diolch i gydweithio rhwng gwahanol adrannau, mae bellach yn bosib i chwaraewyr gofrestru i chwarae yn Gymraeg ac mae rhai cyrsiau hyfforddi hefyd ar gael yn y ddwy iaith.

“Mae llawer mwy o’r ohebiaeth gaiff ei danfon gan y Prif Swyddogion at y clybiau erbyn hyn yn ddwyieithog ac mae’r Gymraeg i’w gweld ar docynnau gemau rhyngwladol bellach ac mae’r defnydd o’r iaith yn llawer mwy amlwg ar ein cyfryngau cymdeithasol yn ogystal.

“Bydd hi hefyd yn bosib ac yn ymarferol i’r rhai sy’n mynychu’r Cyfarfod Blynyddol ym mis Tachwedd, ddweud eu dweud yn Gymraeg os mai dyna’u dymuniad. Camau bach ond camau pwysig i’r cyfeiriad cywir. Dechrau’r daith yw hyn.”

Capteiniaid y dynion a’r merched yn hyrwyddo’r iaith

Un o gonglfeini Polisi Iaith Undeb Rygbi Cymru yw bod y prif chwaraewyr am annog y genhedlaeth nesaf i fod yn falch o’r Gymraeg ac i’w defnyddio hi. Gobaith yr Undeb yw bod gweld y ddau gyd-Gapten yng Nghwpan y Byd, Dewi Lake a Jac Morgan yn defnyddio’r iaith yn naturiol, yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddefnyddio eu Cymraeg ac i deimlo’n hyderus yn gwneud hynny. ‘Defnyddiwch eich Cymraeg’ yw’r neges glir a syml.

Aeth Hannah Jones, Capten tîm Menywod Cymru i Ysgol Dyffryn Aman yr un pryd â Jac Morgan. Yn dilyn buddugoliaeth gofiadwy’r tîm yn erbyn yr Eidal yn Parma eleni – fe atebodd hi a’r Prif Hyfforddwr Ioan Cunningham (aelod arall o ffatri rygbi Ysgol Dyffryn Aman) y cwestiynau cyntaf yng nghynhadledd y wasg yn Gymraeg. Mae’r arferiad yma yn llawer mwy cyffredin bellach yn sesiynau’r wasg ar gyfer y Dynion a’r Menywod.

Dywedodd Hannah Jones: “Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod yn dangos i’r byd bod gennym ddwy iaith yng Nghymru ac fel Capten fy ngwlad rwy’n falch fy mod yn dangos hynny.”

Ychwanegodd Dewi Lake: “Roedd yn brofiad braf cael fy nghyhoeddi fel cyd-Gapten ar gyfer Cwpan y Byd yn fyw ar S4C. Rwy’n mwynhau defnyddio’r iaith yn fawr ac os yw hynny’n helpu pobl eraill i dyfu’n fwy hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg nhw – gorau oll.”

Mae swyddogion Undeb Rygbi Cymru wedi cyfarfod â chynrychiolwyr clybiau a’u hannog i gysylltu gyda’u sylwadau am ddarpariaeth y Gymraeg ac mae adborth adeiladol gan aelodau’r cyhoedd wastad yn cael ei groesawu hefyd.

Bwriad Undeb Rygbi Cymru yw gweithredu’n ddiffuant a gwella’r ddarpariaeth yn gyson ac mae’r ymrwymiad – fel y nodir yn y Polisi Iaith yn gwbl glir:

‘Mae ystyried a hyrwyddo’r Gymraeg ym mhopeth a gynigiwn i’r cyhoedd yn ymrwymiad dyddiol i sefydliad sydd wrth galon ein cenedl.’

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu argymhellion sy’n ymwneud â’r Gymraeg – cysylltwch efo fi,  Rheolwr y Gymraeg yn Undeb Rygbi Cymru, ar bob cyfrif – gderfel@wru.wales