Llesiant a’r amgylchedd ydy canolbwynt gwersyll newydd yr Urdd yn Sir Benfro…

Mae Gwersyll Pentre Ifan yn cynnig dihangfa i bobol ifanc o’r byd digidol a chyfle i  ailgysylltu â natur.

Ymhlith y gweithgareddau sy’n cael eu cynnig yno mae cyfleoedd i blant ddysgu sut i oroesi yn y gwyllt, dod i wybod mwy am ffasiwn gynaliadwy a mynd allan liw nos i weld y sêr.