Mae’n ymddangos bod un garfan o fewn y Blaid Geidwadol eisoes wedi penderfynu eu bod nhw’n colli yn yr etholiad cyffredinol nesa’ ac mai’r frwydr fwya’ bellach ydi honno am enaid eu plaid.

Dydi criw asgell dde Truss a Rees-Mogg a hen gefnogwyr Boris Johnson ddim fel petaen nhw’n poeni o gwbl am chwalfa i lywodraeth Rishi Sunak; a dweud y gwir, maen nhw’n gwneud eu gorau i’w danseilio.