Mae’r teithwyr o’r Gogledd i Gaerdydd yn gyfarwydd iawn gyda’r cerflun o David Davies sydd yn sefyll ar ochr yr A470 yn Llandinam. Davies oedd y perchennog pyllau glo a agorodd Ddociau’r Barri yn 1889. Ond efallai bod hi’n amser i’r pentref yn y canolbarth godi cerflun newydd fel teyrnged i fab arall y pentref. Sef Chris Venables, ymosodwr Pen-y-bont, sydd newydd wedi curo’r record am y mwyaf o ymddangosiadau yn hanes Uwch Gynghrair Cymru.