Gallwn ddisgwyl tipyn o drafod rhwng nawr a’r Etholiad Cyffredinol ynglŷn ag aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae rhai o ffefrynnau darllenwyr Golwg, megis yr annwyl Suella Braverman a Kemi Badenoch, eisoes wedi cynnig fod angen i ni adael y confensiwn – yn bennaf er mwyn rhyddhau gwledydd Prydain o afael Llys Hawliau Dynol Ewrop, sydd wedi ei leoli yn Strasbourg.