Dydi hi ddim sbel ers imi ysgrifennu am wahardd cŵn Bully Americanaidd, ac ers hynny mae pethau wedi symud yn gyflym ar y pwnc – nid fy mod i’n honni bod yn gatalydd ar gyfer deddfwriaeth Brydeinig! Rydyn ni wedi clywed llu o leisiau o blaid ac yn erbyn ers hynny mewn dadl sy’n prysur droi braidd yn chwerw. Mae’r perchenogion wrthi’n taro’n ôl, ac yn wir fe gafwyd protest gerbron San Steffan wythnos diwethaf. Daeth y llu ynghyd i wrthwynebu’r egin ddeddf, gyda phob un yn dod â thennyn gwag gyda