Gyda Chymru yn herio Gibraltar ar y Cae Ras ddydd Mercher nesaf, a gêm bwysig i ddilyn yn erbyn Croatia yng Nghaerdydd, mae Gwilym Dwyfor yn cynnig rhagflas blasus…

Mae’r gemau rhyngwladol yn niferus yr adeg yma o’r tymor. Cwta fis ers y gêm gyfartal yn erbyn De Corea a’r fuddugoliaeth yn Latfia, dyma ni eto, yn edrych ymlaen at gêm gyfeillgar yn erbyn Gibraltar a gêm ragbrofol holl bwysig yn erbyn Croatia’r wythnos nesaf.