Wnes i dderbyn neges ar ôl gêm bêl-droed rhwng Pwllheli a’r Felinheli’r wythnos diwethaf gan yr ap ffôn, Futbology. Roedd yr hysbysiad yn cyhoeddi mai’r gêm yna oedd gêm rhif 1,350 i mi ei gwylio’n fyw. Mae hwnna’n swnio’n lot, ond mae dim ond yn cynnwys y rhai roeddwn i wedi cofnodi. Rydw i’n hyderus bod yna ychydig o gannoedd eraill rydw i wedi eu hanghofio. A hynny heb gyfri gemau fy mhlant y bu i mi eu gwylio dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.