Y gwerthwr tai Ian Wyn-Jones oedd o dan y chwyddwydr ym mhennod gyntaf cyfres ddiweddaraf Y Byd ar Bedwar.

Siôn Jenkins oedd yn ymchwilio i gwynion yn erbyn yr asiant gan gyn-gwsmeriaid sydd yn credu iddo eu camarwain. Roedd y cwynion yn cynnwys peidio datgelu cynigion a oedd wedi eu rhoi ar eiddo a dweud celwydd am brynwyr ffug yn dod i weld tai.