Cofiaf fynychu cyflwyniad gan gynllunydd gwefannau. Roedd wedi derbyn gwobrau am ei waith – gan gynnwys gwefannau ar gyfer adrannau’r llywodraeth.

Eglurodd eu bod wedi eu cynllunio i sicrhau bod modd i’r cyhoedd fynd atynt – derbyn gwasanaeth – a gadael mor fuan â phosibl. Roedd hynny’n adlewyrchu ymchwil a ddangosodd bod y cyhoedd am gael cyn lleied â phosibl o gyswllt â’r llywodraeth.

A dyna’r gwir amdani. Rydym am fyw mor rhydd â phosibl o grafangau’n Gweinidogion.