Mi wnes i weld rhywun yn torri ei goes yr wythnos ddiwethaf. Roeddwn i’n gwylio gêm ac roedd y naw deg munud bron drosodd. Wedyn ar y llinell hanner ffordd roedd yna dacl drom iawn o fy mlaen i. Sbrintiodd chwaraewr canol cau’r tîm cartref ac yna neidio mewn i’w gwrthwynebwr fel yr oedd o’n siapio i chwarae’r bêl. Fe gafodd y taclwr gyffyrddiad ysgafn ar y bêl cyn i’w gorff symud ymlaen gyda momentwm ei rediad, a bwrw coes y llall gyda’i holl bwysau tu ôl iddo fo.