Dros y penwythnos roeddwn mewn angladd yn Lerpwl. Cefais wahoddiad gan y teulu i roi teyrnged ger y bedd – a hynny yn y Gymraeg achos yn eu geiriau nhw “bydda Jamie wedi hoffi hynny”. Jamie oedd y diweddar Jamie Reid. Yn fwyaf enwog fel cynllunydd cloriau recordiau’r Sex Pistols, y safety pin drwy drwyn y Frenhines a’r bysus i ‘Nowhere’ a ‘Boredom’. Ond gall rhywun ychwanegu Suburban Press, cloriau Boy George, Wendy James/Transvision Vamp, Afro Celt Sound System ac yn fwy diweddar Gwenn