Yn gynharach eleni daeth y newyddion i lorio cefnogwyr Cymru, sef bod Joe Allen yn ymddeol.

Ef oedd ein Cadfridog Canol Cae am dymhorau lu, a bu yn greiddiol i lwyddiant Cymru yn yr Ewros a Chwpan y Byd.

Ac ers ei ymadawiad, mae twll mawr gofidus wedi bod yng nghanol cae’r tîm cenedlaethol.