Ar ôl cyffro a nerfusrwydd y gêm yn erbyn Ffiji yn Bordeaux roedden ni wedi gobeithio byddai llonyddwch y Cote D’Azur wedi ymestyn i’r Stade de Nice nos Sadwrn a Chymru’n gwbl ddidrafferth yn sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Portiwgal.

Wedi’r cyfan roedd Portiwgal wyth safle yn is na Chymru yn rhestr detholion y byd, nhw oedd y wlad ola’ i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd a’r unig dro arall i’r ddwy wlad gwrdd fe sgoriodd Cymru 16 cais a thros gant o bwyntiau. Ond wrth gwrs rygbi Cymru yw hwn a gallwch chi byth gymryd unrhyw beth yn ganiataol.

Fe chwaraeodd Portiwgal dipyn gwell nag oedden ni wedi disgwyl ac fe chwaraeodd Cymru dipyn gwaeth, ac ar ôl dianc o Bordeaux gyda buddugoliaeth fe lwyddodd Cymru i ddianc o Nice gyda phwynt bonws diolch i gais Taulupe Faletau gyda symudiad ola’r gêm a’r cloc wedi troi’n goch ers dwy funud a mwy. Fe welson ni unwaith eto os nad oes gan Gymru eu 15 neu 23 gorau ar y cae tydyn nhw ddim yn dîm arbennig o dda.

Roedd ymdrech Rio Dyer yn un go-lew, ond Faletau gyda’i gais ac un dacl wyrthiol i atal cais, ynghyd â Jac Morgan, oedd y ddau wnaeth ddal y llygad fwya’ – dau sydd eisoes wedi chwarae dwy gêm lawn o 80 munud a mwy, a dau y bydd llawer o alw arnyn nhw am weddill y gystadleuaeth hefyd.

Fe fethodd y chwaraewyr eraill fanteisio ar y cyfle i greu argraff a darbwyllo Warren Gatland eu bod yn haeddu cael eu dewis ar gyfer y gemau hollbwysig sydd i ddod. Ac os oedd clybiau Ffrainc a’u llyfrau siec nid ansylweddol yn cadw golwg ar y digwyddiadau yn Nice, yr enwau bydden nhw’n fwya’ tebygol o roi ar y sieciau hynny byddai Nuno Sousa Guedes neu Jeronimo Portela. Pe tai mwy o’u chwaraewyr yn cael cyfle i brofi rygbi o safon uwch yn rheolaidd ac adeiladu ar y sylfaen mae Patrice Lagisquet wedi gosod, fe allai Portiwgal ddod yn dîm i edrych mas amdano.

Grŵp Cymru yn gwbl agored

Does ond rhaid edrych ar Ffiji i weld beth mae chwarae’n gyson ar lefel uwch yn gallu cyflawni. Am berfformiad ac am ganlyniad yn erbyn Awstralia yn St Etienne! Er mor gyffredin yw tîm (a hyfforddi) Eddie Jones, ac er ambell benderfyniad dyfarnu amheus eto, roedd Ffiji’n arbennig. I fynd gyda’r sgiliau trafod a’r rhedeg cydnerth roedd amddiffyn gwych a’r gallu i droi’r bêl drosodd ddeg gwaith yn gwbl allweddol. Mae’r canlyniad yn rhoi perfformiad Cymru’r wythnos cynt mewn goleuni newydd, ac er y byddai buddugoliaeth i Awstralia wedi hwyluso llwybr Cymru i’r wyth ola’ mae’n ganlyniad gwych i’r gystadleuaeth a rygbi’n gyffredinol.

Yr un siom oedd bod Ffiji wedi methu gôl gosb gyda chic ola’r gêm. Fe fyddai hynny wedi tynnu pwynt bonws oddi ar Awstralia a chodi’r pwysau ar Gymru ychydig.

Mae Grŵp C nawr yn gwbl agored ond mae tranc Cymru yn eu dwylo’u hunain.

Curo Awstralia yn Lyon nos Sul ac fe ddylen nhw fod yn saff. Ond colli ac mae Cymru yn mynd i ddibynnu’n llwyr ar bwyntiau bonws a gwahaniaeth pwyntiau sgoriwyd. Mae cais hwyr Taulupe’n tyfu yn ei werth drwy’r amser ond fe allai’r anallu i guro Portiwgal o fwy o sgôr ddod nôl i’n brathu. Am y drydedd wythnos o’r bron bydd galw am y tabledi pwysedd gwaed – fi’n mynd rhy hen i hyn bois bach.