Tros yr wythnosau diwethaf mae’r mudiadau iaith wedi bod yn mynegi pryderon am addysg Gymraeg yng Ngwynedd.

Bu Cylch yr Iaith yn cwyno nad yw’r cyngor yn cadw cofnod o faint o blant y sir sy’n derbyn addysg Gymraeg, ac yn ôl Angharad Tomos “dydi maint y dirywiad” o ran y nifer sy’n derbyn addysg Gymraeg “heb ei gofnodi”.