Mae cerddi “amrwd a phoenus” i’w cael rhwng cloriau cyfrol newydd Gruffudd Owen, ynghyd â’r hiwmor a’r sinigiaeth ry’n ni wedi dod i’w ddisgwyl gan y Prifardd poblogaidd…
‘Yr wyf o hyd wrth fy nghyfrifiadur/ yn marw’n raddol o’m mymryn rhyddid,/ yn gwylio’r saga mewn galar segur…’ Dyma rai llinellau o’r gerdd ‘Haf 2020’, o ail gyfrol farddoniaeth y bardd Gruffudd Eifion Owen.