Bydd gorymdaith ddiweddaraf YesCymru ar strydoedd unig ddinas Gwynedd dros y penwythnos…

Mae disgwyl y bydd miloedd yn ymgynnull ar strydoedd Bangor dros y penwythnos wrth i orymdaith annibyniaeth YesCymru ac AUOBCymru gael ei chynnal yno am y tro cyntaf.

Yn ôl y polau diweddaraf, mae’r gefnogaeth ar gyfer annibyniaeth i Gymru wedi codi i 33% a gobaith y trefnwyr yw gweld twf parhaus.

Yn ôl YesCymru, bu 7,000 yn gorymdeithio dros annibyniaeth yn Abertawe fis Mai ac mae disgwyl bydd dros 8,000 o gefnogwyr yn mynychu’r orymdaith ddydd Sadwrn.

“Mae ein gorymdeithiau annibyniaeth wedi bod yn mynd o nerth i nerth yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gyda chefnogaeth yn tyfu, mae posibilrwydd cryf mai’r orymdaith hon fydd yr un fwyaf eto,” meddai llefarydd YesCymru.

“Bydd mynd â’n gofynion am annibyniaeth i ddinas fel Bangor am y tro cyntaf yn anfon neges glir i weddill Cymru, San Steffan a thu hwnt ein bod o ddifrif ynglŷn â’n hachos, a’r unig ffordd i sicrhau cenedlaethau’r dyfodol yw i Gymru ofalu am ei materion ei hun.”

Y ddraig goch yn tywys

Bydd y gorymdeithwyr yn ymgynnull ym maes parcio Glanrafon, Bangor am 11 o’r gloch y bore cyn cychwyn ar ei thaith am un o’r gloch y prynhawn.

Yn dilyn yr orymdaith, bydd rali yn y maes parcio am ddau o’r gloch gydag arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yr actores Sera Cracroft a cherddorion megis Bryn Fôn a Fleur De Lys.

Yn arwain yr orymdaith bydd draig goch deg metr o hyd, wedi ei chreu gan Small World Theatre, fel “symbol o’n hysbryd tanllyd a’n hymrwymiad diwyro i greu Cymru annibynnol”.

“Byddwn ni’n cario gyda ni obeithion a breuddwydion cenedl sy’n benderfynol o lunio ei llwybr ei hun tuag at annibyniaeth,” meddai Sera Cracroft.

‘Dim amserlen’

Daw’r orymdaith bron ddeufis wedi i Rhun ap Iorwerth sôn wrth BBC Cymru na fydd Plaid Cymru yn addo amserlen ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth.

Er iddo ddweud ei fod yn “100% ymroddedig” i’r nod o Gymru annibynnol, dywedodd ei fod eisiau newid y pwyslais a sicrhau bod yr achos dros annibyniaeth yn cyrraedd pobol o bob cefndir.

Roedd ei ragflaenydd, Adam Price, wedi addo cynnal refferendwm o fewn pum mlynedd pe bae’r Blaid wedi ennill yr etholiad diwethaf yn 2021.

Ond hoffai Rhun weld mwy’n cael ei wneud i dyfu’r gefnogaeth yn gyntaf.

“Mae [annibyniaeth] yn rhywbeth dwi’n gwbl grediniol sydd ei angen yn ymarferol er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru,” meddai.

“Ond siwrne ydy hi, a dw i eisiau dod â phobl efo ni ar siwrne tuag annibyniaeth.”

Yn ôl y polau, mae barn y cyhoedd ar gynnal refferendwm annibyniaeth yn gymysg gyda 34% yn dweud byddent yn cefnogi refferendwm annibyniaeth o fewn y flwyddyn nesaf, tra bod 34% yn ei erbyn.

Er bod cynnydd wedi bod mewn cefnogaeth dros flynyddoedd diweddar, dywedodd Rhun mai rôl y Cymry yn y pen draw yw dewis cyflymder y daith.

“Siwrne ydy hi a phobl Cymru sydd yn gorfod penderfynu, ar ddiwedd y dydd, beth ydy cyflymder y siwrne honno.”