Fe fydd grŵp sy’n dwyn ynghyd alawon o Gymru ac India dan gochl jazz yn mynd ar daith eto eleni – gan fod ganddyn nhw fusnes heb ei orffen…

Mae cywaith cerddorol Khamira – rhwng tri cherddor jazz o Gymru a thri cherddor o India – yn bodoli ers 2014. Fe fuon nhw ar eu taith gyntaf yn 2015, gan berfformio mewn gwyliau Jazz yn Goa, Kolkata, Bangalore a Dehli Newydd yn India.