Roedd ein gêm gyntaf yng Nghwpan Rygb i’r Byd yn “un o’r gemau mwyaf anhygoel yn hanes y gystadleuaeth,” yn ôl Sylwebydd Rygbi S4C…
O mam fach am benwythnos agoriadol i Gwpan y Byd! Wrth edrych mas o ffenest yr awyren yn codi o faes awyr Caerdydd bnawn Iau ar un o’r caeau islaw, fe weles i sgwâr coch ac wedi’u peintio mewn gwyn oedd y geiriau “pob lwc Cymru” – wel, fe ddefnyddion nhw bob owns o’r lwc hwnnw yn eu gêm gyntaf!
Roedd bwgan Nantes 2007 yn fyw iawn ar ddiwedd un o’r gemau mwyaf anhygoel yn hanes y gystadleuaeth. Ond gyda chyfuniad o lwc, dewrder, cymeriad a charedigrwydd y dyfarnwr Matthew Carley y tro yma, fe ddaeth Cymru drwyddi i’w rhoi nhw ar ben ffordd. Mewn gêm llawn cyffro, tensiwn, awch ac ymroddiad fe aeth pawb drwy pob emosiwn posib a’r teimlad mwyaf ar ddiwedd y noson oedd rhyddhad. Wrth adael Stade de Bordeaux ro’n i ddim yn siŵr os o’n i am wydraid o win coch neu rywbeth cryfach! Ac os mai fel yna roeddwn i a miloedd o Gymry eraill yn teimlo, duw a wŷr beth oedd yn mynd drwy meddyliau’r Ffijiaid druain a chyfle euraidd wedi mynd yn llythrennol o’u gafael nhw ar yr eiliad olaf.
Os oedd gêm olaf y penwythnos cyntaf yn anhygoel o ran y rygbi, roedd y cyntaf rhwng Ffrainc a Seland Newydd yn gwbl gofiadwy am yr awyrgylch. Mewn 35 o flynyddoedd o ohebu ar rygbi ar draws y byd, fe alla i ddweud bod yr awyrgylch yn y Stade de France nos Wener gyda’r gorau i mi ei brofi erioed.
Wrth gyrraedd y maes, roedd cerdded ymhlith y miloedd a gweld ambell Napoleon, ambell Asterix a hyd yn oed ambell haka impromptu yn rhoi dyn mewn hwyliau da yn syth. Ac o fewn y stadiwm wedyn roedd y sŵn yn fyddarol o’r dechrau i’r diwedd a chefnogwyr Ffrainc, sy’n gallu bod mor oriog, yn amlwg wedi prynu mewn nid yn unig i’r tîm cenedlaethol ar ei newydd wedd ond hefyd i lwyfannu cystadleuaeth lwyddiannus.
Nid bod y digwyddiad heb ei broblemau er bod y wlad wedi cael pedair blynedd i baratoi. Ar ôl darllen ar y cyfryngau cymdeithasol a chlywed gan gefnogwyr am rai o’r trafferthion roedden nhw wedi profi mewn ambell stadiwm, fe weles i’r dystiolaeth fy hun yn Bordeaux – ciwiau anferth o bobl yn aros am fwyd a diod a’r pobl gweini yn aros am archeb pob unigolyn yn eu tro yn hytrach na pharatoi nifer o beintiau neu brydau yr un pryd a chadw pethau’n symud a phawb yn hapus.
Poeni am fethu’r seremoni agoriadol
Ond roedden ni eisoes wedi cael blas o’r hyn i ddod ym Mharis. Roedden ni’n wirioneddol poeni ar un adeg y bydden ni’n colli’r seremoni agoriadol ac S4C heb ddarlledwyr ar gyfer y rhaglen gyntaf! Roedd y trefniadau ar gyfer prosesau achrediad (neu accreditation) i gael cerdyn mynediad i bob maes yn rhyfeddol a dweud y lleiaf. Roedd pawb – yn ddarlledwyr, ffotograffwyr, staff arlwyo, staff diogelwch, glanhawyr a dyn a ŵyr pwy arall i gyd yn cael eu prosesu mewn un adeilad, a hynny gan griw o hanner dwsin o bobl oedd yn amlwg wedi dod allan o ymddeoliad i wirfoddoli – pob un â gluniadur i gwblhau’r gwaith. Fel allwch chi ddychmygu roedd yr holl broses lafurus yn cymryd oriau a’r ciw yn ymestyn am filltiroedd. Rhaid cyfaddef bod yn eofn a neidio i flaen y ciw ychydig yn ddigywilydd ond yn gwbwl angenrheidiol o dan yr amgylchiadau. Cofiwch chi, doedd y nerfau a’r pryder yn y ciw di-ben-draw yn Stade de France yn ddim o’i gymharu â’r ddwy awr yn ystod y gêm yn erbyn Ffiji.
Gawn ni ond gobeithio am ychydig ddyddiau tawelach pan fydd Cymru’n cwrdd â Phortiwgal yn Nice y penwythnos nesa!
Gallwch wylio pob gêm Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer