Mae darllen Golwg yn help mawr i wella fy Nghymraeg a’r wythnos dd’wetha cefais oleuni newydd ar air yr wyf mae’n amlwg wedi bod yn ei gam sillafu ar hyd y blynyddoedd [‘Cwpan Rygbi’r Byd – y Cymry yn camu i ffae Ffiji’, Golwg 07/09/23].

Roeddwn wedi meddwl erioed mai ff a u oedd y sillafiad cywir ar gartref y llwynog a’r llew ac ambell un arall hefyd.

Ond o sylwi ar y pennawd bras mi wn yn awr mai ff a e sy’n gywir.