“Yn lle cefnogi nhw a gwneud pethau’n haws fel eu bod nhw’n aros allan, mae o’n un sialens ar ôl y llall…”

Mae 56% o fenywod Cymru sy’n mynd i’r carchar yn aildroseddu o fewn blwyddyn o gael eu rhyddhau, gyda’r ganran yn cynyddu i 71% ar gyfer rheiny sydd yn y carchar am lai na 12 mis, yn ôl ymchwil Senedd Cymru.

O ganlyniad, mae gwleidyddion o bob plaid yn cytuno bod angen rhoi mwy o gymorth i fenywod wrth iddyn nhw ail-ymuno â chymdeithas.