Mae peryg fod tywydd diflas haf 2023 yn ein twyllo ni yng Nghymru. Dim gwres eithafol, llawer llai nag arfer o danau gwair a fawr ddim stormydd eithafol chwaith.

Ond ni ydi’r eithriad. Mewn llawer rhan arall o’r byd, mae effeithiau’r tywydd wedi bod yn ddychrynllyd,  o sychder i lifogydd, o danau gwyllt i ddiflaniad llwyfannau rhew. Ac efallai mai ein tro ni fydd hi’r flwyddyn nesa’.