Bid siŵr na Gareth Wyn Jones ydi ffermwr enwocaf Cymru, sy’n sefyllfa y mae o’n ei hoffi’n fawr iawn, iawn. Arferai addysgu pobl am fyd ffermio o ddydd i ddydd, ond mae o wedi troi i mewn i troll ar bob cyfrwng posib ar-lein ac yn rhywun sy’n arbennig o hoff o sylw, waeth beth fo natur y sylw hwnnw. Un hoff iawn ydyw o ddweud neu wneud rhywbeth dadleuol ac yna beio pawb arall am gael go arno. Aiff hynny o bechu feganiaid ar bob cyfle posibl (ddim y gorchwyl anoddaf ei gyflawni,