Dengys ymchwil gan ‘Shared Data Unit’ y BBC fod cynghorau sir y wlad am fod ar eu colled yn sylweddol tros y ddwy flynedd nesaf, gyda bron i £400 miliwn o gyllid ar goll.

Eisoes mae’r pwysau ar gyllidebau ysgolion a’r maes gofal cymdeithasol yn arw, ac mae disgwyl I’r sefyllfa waethygu oherwydd effaith chwyddiant a biliau ynni uwch.