Dyma ni reit ar gynffon Awst a phawb call ar ei wyliau.

Ond sgwennu golygyddol sydd raid, a hwnnw’n olygyddol nad yw’n pechu Taid.

Mi ellid trafod mugshot Donald Trump, yr Orenfab sy’n ddihiryn brwnt neu’n ddisglair ddeiamwnt, yn dibynnu ar eich bydolwg.

Neu mi fedrid trafod y gusan gafodd y Sbansan yn ffeinal ffwti’r merched, un gusan gyflym sydd wedi ei harafu hyd syrffed ar deledu er mwyn profi… dwn i’m be.