Fe wnes i dreulio saith diwrnod mewn pabell yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni. Pob blwyddyn rwy’n cwestiynu’r fath benderfyniad ac yn syfrdanu o feddwl sut wnes i dreulio wythnosau ac wythnosau yn fy ugeiniau yn byw mewn pebyll a charafanau dros yr haf. Ar ôl saith diwrnod mewn pabell gyda’r glaw gwaethaf mae’r ŵyl wedi gweld ers blynyddoedd, roedd fy awch i blymio dan do tŷ sy’n gallu gwrthsefyll tywydd gwlyb ar lefel arall.