Mae pawb yn cytuno inni gael eisteddfod ragorol ym Moduan eleni, a’r cwestiwn mawr yn dilyn yr Ŵyl yw sut i gadw gafael ar y Gymraeg yn Llŷn a gweddill Gwynedd. Oni bai fod gennym bolisi iaith llawer cadarnach yn y sir, dirywio yn gynt wnaiff pethau.