Siomedig braidd oedd darllen yr ymatebion i erthyglau Huw Onllwyn am Gaza.

Tybed os mai’r farn ymhlith y rheini sydd wedi ymateb yw y dylai trigolion Israel dderbyn y ffaith bod Hamas a Hezbola yn gymdogion iddynt – a’i bod yn rhesymol i’r 7 miliwn o Iddewon sy’n byw yno i ddioddef mwy o ymosodiadau – fel 7 Hydref, neu hyd yn oed yn waeth?